Manufactured In The UK
CROESO i wefan swyddogol Easigrip Ltd – cwmni sy’n gwneud rhwymyn tiwb elastig o safon.
Mae’r rhwymyn, sydd ar gael mewn sawl gwahanol faint, yn ddelfrydol os bydd rhywun yn cael ysigiad, straen, neu ar gyfer cynnal cymal neu gadw dresin yn ei le.
Mae Easigrip yn cael ei wneud yn ôl safonau Pharmacopoeia Prydain, ac yn gotwm pur 100% gyda haen o rwber wedi'i orchuddio'n ymblethu drwyddo. Does dim angen na phinnau na thâp.
Mae Easigrip - sy’n debyg i Tubigrip® - yn cael ei ffafrio gan lawer o bobl broffesiynol yn y maes meddygol ac fe allwch ei archebu ym mhob fferyllfa yn y DU.
Mae’r busnes bach teuluol hwn yn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i aelodau’r cyhoedd, pobl broffesiynol ym maes iechyd, dosbarthwyr tramor a chyfanwerthwyr.
Ers ei lansio ym 1999, mae llawer o grwpiau ac ymddiriedolaethau gofal sylfaenol yn y DU wedi bod yn awyddus i gynnwys Easigrip yn eu fferyllfeydd, gan ei fod yn cynnig dewis arall cost-effeithiol ac am ei fod yn gwneud ei waith yn rhagorol ym maes triniaeth glinigol. Hefyd, mae pobl broffesiynol yn y byd meddygol ledled y DU bellach yn rhoi’r cynnyrch ar bresgripsiwn.
info@easigrip.co.uk
I ddewis y maint cywir ar gyfer yr Easigrip, mesurwch y goes neu’r fraich ar ei rhan lletaf a chyfeiriwch at y tabl meintiau isod